2 Samuel 12

1a dyma fe'n anfon y proffwyd Nathan at Dafydd. Daeth ato a dweud wrtho: “Un tro roedd yna ddau ddyn yn byw yn rhyw dre. Roedd un yn gyfoethog a'r llall yn dlawd. 2Roedd gan y dyn cyfoethog lond gwlad o ddefaid a gwartheg. 3Ond doedd gan y dyn tlawd ddim ond un oen banw fach roedd wedi ei phrynu a'i magu. Roedd yr oen wedi tyfu gydag e a'i blant. Roedd yn bwyta ac yn yfed gyda nhw, ac yn cysgu yn ei freichiau, fel petai'n ferch fach iddo.

4“Cafodd y dyn cyfoethog ymwelydd. Ond doedd e ddim am ladd un o'i ddefaid neu ei wartheg ei hun i wneud bwyd iddo. Felly dyma fe'n cymryd oen y dyn tlawd a gwneud pryd o fwyd i'w ymwelydd o hwnnw.”

5Roedd Dafydd wedi gwylltio'n lân pan glywodd hyn. Dwedodd wrth Nathan, “Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw, mae'r dyn yna'n haeddu marw! 6Rhaid iddo roi pedwar oen a yn ôl i'r dyn tlawd am wneud y fath beth, ac am fod mor ddideimlad!”

7A dyma Nathan yn ateb Dafydd, “Ti ydy'r dyn! Dyma mae'r Arglwydd, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Fi wnaeth dy osod di yn frenin ar Israel. Fi hefyd wnaeth dy achub di oddi wrth Saul. 8Dw i wedi rhoi eiddo dy feistr i ti, a'i wragedd. A dyma fi'n rhoi pobl Israel a Jwda i ti hefyd. A petai hynny ddim yn ddigon byddwn wedi rhoi lot mwy i ti. 9Pam wyt ti wedi fy sarhau i, yr Arglwydd, drwy wneud peth mor ofnadwy? Ti wedi lladd Wreia yr Hethiad, a chymryd ei wraig yn wraig i ti dy hun. Ie, ti wnaeth ei ladd, gyda chleddyf yr Ammoniaid! 10Felly bydd cysgod y cleddyf arnat ti a dy deulu bob amser. Ti wedi fy sarhau i drwy gymryd gwraig Wreia yr Hethiad i ti dy hun!’ 11Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i greu helynt i ti o fewn dy deulu dy hun. Bydda i'n cymryd dy wragedd di a'u rhoi nhw i ddyn arall. Bydd e'n cysgu gyda dy wragedd di yn gwbl agored. 12Er dy fod ti wedi trïo cuddio beth wnest ti, bydd pobl Israel i gyd yn gweld beth dw i'n mynd i'w wneud!’”

Dafydd yn cyffesu ei bechod

13Dyma Dafydd yn ateb, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr Arglwydd.” b

A dyma Nathan yn ateb, “Wyt, ond mae'r Arglwydd wedi maddau y pechod yma. Dwyt ti ddim yn mynd i farw.
14Ond am dy fod ti wedi bod mor amharchus o'r Arglwydd, bydd y plentyn gafodd ei eni yn marw.”

15Yna aeth Nathan yn ôl adre.

Plentyn Dafydd a Bathseba yn marw

Dyma'r Arglwydd yn gwneud y babi gafodd gwraig Wreia i Dafydd yn sâl iawn
16A dyma Dafydd yn mynd ati i bledio'n daer ar yr Arglwydd i'w wella. Roedd yn mynd heb fwyd, ac yn cysgu ar lawr bob nos. 17Daeth ei gynghorwyr ato i geisio ei berswadio i godi oddi ar lawr, ond gwrthod wnaeth e, a gwrthod bwyta dim gyda nhw.

18Ar ôl saith diwrnod dyma'r plentyn yn marw. Roedd gan swyddogion Dafydd ofn mynd i ddweud wrtho. “Doedd e'n cymryd dim sylw ohonon ni pan oedd y plentyn yn dal yn fyw,” medden nhw. “Sut allwn ni ddweud wrtho fod y plentyn wedi marw? Bydd e'n gwneud rhywbeth ofnadwy iddo'i hun.”

19Pan sylwodd Dafydd fod ei swyddogion yn sibrwd, roedd yn amau fod y plentyn wedi marw. Felly gofynnodd iddyn nhw, “Ydy'r plentyn wedi marw?” A dyma nhw'n ateb “Ydy, mae wedi marw.”

20Yna dyma Dafydd yn codi oddi ar lawr, yn ymolchi, rhoi olew ar ei wyneb a newid ei ddillad. Ac aeth i babell yr Arglwydd i addoli. Wedyn aeth yn ôl adre i'r palas a bwyta pryd o fwyd. 21A dyma'i swyddogion yn gofyn iddo, “Pam wyt ti'n ymddwyn fel yma? Pan oedd y plentyn yn dal yn fyw roeddet ti'n crïo ac yn ymprydio. Ond nawr mae'r plentyn wedi marw dyma ti'n codi ac yn bwyta!”

22Atebodd Dafydd, “Tra roedd y plentyn yn dal yn fyw ron i'n ymprydio ac yn crïo. Ro'n i'n meddwl falle y byddai'r Arglwydd yn tosturio ac yn gadael i'r plentyn fyw. 23Ond nawr mae e wedi marw. Does dim pwynt gwrthod bwyd bellach. Alla i ddim dod ag e'n ôl. Bydda i yn mynd ato fe, ond wnaiff e ddim dod yn ôl ata i.”

Geni Solomon

24Yna dyma Dafydd yn mynd i gysuro ei wraig, Bathseba. Cysgodd gyda hi a cael rhyw gyda hi. Cafodd fab iddo, a dyma nhw'n ei alw'n Solomon. Roedd yr Arglwydd yn caru'r plentyn, 25a dyma fe'n rhoi neges drwy'r proffwyd Nathan yn dweud ei fod i gael ei alw'n Iedida, sef “Mae'r Arglwydd yn ei garu.”

Dafydd yn concro Rabba

(1 Cronicl 20:1b-3)

26Roedd Joab yn dal i ryfela yn erbyn Rabba, prifddinas yr Ammoniaid, a llwyddodd i ddal y gaer frenhinol. 27Anfonodd neges at Dafydd, “Dw i wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio cronfa ddŵr y ddinas. 28Mae'n bryd i ti gasglu gweddill y fyddin, a dod yma i warchae ar y ddinas. Wedyn ti fydd wedi ei choncro, nid fi, a fydd hi ddim yn cael ei henwi ar fy ôl i.”

29Felly dyma Dafydd yn casglu'r fyddin i gyd a mynd i Rabba i ymladd yn ei herbyn a'i choncro. 30Dyma fe'n cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd hi wedi ei gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd. 31Symudodd y bobl allan, a'u gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill haearn, a'u hanfon i'r gwaith brics.

Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda pob un o drefi'r Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gyda'i fyddin.

Copyright information for CYM